Na i Beilonau Dyffryn Tywi - No to Dyffryn Tywi Pylons!
Rwy’n siŵr eich bod yn ymwybodol erbyn hyn o’r cynlluniau gan Bute Energy i sefydlu coridor o beilonau a gwifrau trydan yn cysylltu fferm wynt yn y Canolbarth i’r Grid Cenedlaethol, a hynny drwy Ddyffryn Tywi.
Mae’r cynnig hwn wedi creu cryn dipyn o ofid yn yr ardal leol, oherwydd ei effaith gweledol ar y dyffryn, sydd yn enwog am ei harddwch a’i dirwedd brydferth.
Tra ein bod yn llawn sylweddoli’r angen am fwy o ynni adnewyddadwy, rydym o’r farn bod modd cludo’r ynni yma drwy wifrau o dan y ddaear, a fyddai’n sicrhau ffynhonnell newydd o egni gwyrdd tra hefyd yn parchu’r gymuned leol a threftadaeth yr ardal.
Arwyddwch ein deiseb, sy’n galw ar osod y gwifrau yma dan y ddaear, a dangoswch nad ydym yn barod i dderbyn peilonau ar hyd Dyffryn Tywi.
---
You may be aware of the proposals by Bute Energy to establish a corridor of energy pylons and cables from a wind farm in Mid Wales, going through the Tywi Valley to join the National Grid.
This has caused significant concerns in the local area, as this would have a significant visual impact on the valley, which is renowned for its natural beauty and stunning, picturesque landscape.
Whilst recognising the need for increased renewable energy sources, we believe that transmission of this energy can be achieved by placing these cables underground, which would ensure a new source of green energy and respect the local area’s communities and their heritage.
Sign our petition for the undergrounding of these cables and help us demonstrate the strength of opposition to the proposed pylon route in the Tywi Valley.